Dr Adrian Price
Cyn-uwch-ddarlithydd yn y Gymraeg. Wedi cyhoeddi ar ddysgu iaith a hanes Cymru. Former senior lecturer in Welsh. Published on language learning and Welsh history.
- Indexed issues, last 90 days
- 12
- Latest publication
- Sep 27, 2026
- Audience
- Checking…
- Earliest in this view
- Aug 25, 2026
Latest issues
Rhyfel Owain ym Morgannwg / The Revolt of Owain Glyndŵr in Glamorgan (opens the original)
Read excerpt
Cymerodd ddwy flynedd i Ryfel Owain gyrraedd Morgannwg. Adroddodd Adda o Frynbuga fod yr arglwyddiaeth, a oedd yn nwylo Harri IV y pryd hynny, yn dawel yn 1401. Ond daeth tro ar fyd. Wedi buddugoliaeth fawr Glyndŵr ym Mryn Glas ar 22 Mehefin 1402, daeth â’i fyddin i Forgannwg y mis Awst canlynol, cododd gwŷr yr arglwyddiaeth o’i blaid a llosgodd Gaerdydd. Yn ystod 1403, nid oedd Dugaeth Lancastr yn codi cyllid o’i his-arglwyddiaeth, Ogwr. Erbyn 5 Gorffennaf, 1403 yr oedd rheolaeth y Brenin ym Mo
Dylan Ail Ton (opens the original)
Read excerpt
Down ar draws cymeriad o’r enw Dylan Ail Ton ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi, sef, chwedl o’r enw, Math fab Mathonwy. Brenin Gwynedd yw Math ac mae cyflwr arno lle pan nad yw’n rhyfela, rhaid iddo orffwys ei draed ar arffed morwyn neu wyryf. Y wyryf dan sylw yw Goewin ond yn anffodus, mae Gilfaethwy, nai Math, yn ei threisio gyda chymorth ei frawd, Gwydion. Yn gosb am hyn, cânt eu troi’n nifer o anifeiliaid sydd yn gorfod paru â’i gilydd. Â Math i ffwrdd i ryfela ond wedi iddo ddychwelyd a’i neia
Cerddoriaeth Gymreig y Rhyfel Cartref / Welsh Music of the Civil War (opens the original)
Read excerpt
Bûm yn pedroni heddiw ynghylch pa fath o ganeuon ac alawon y canai’r catrodau Cymreig yn ystod y Rhyfel Cartref (1642-49). Codwyd miloedd o Gymry i ymladd dros y Brenin a ffurfient gatrodau fel rhai Syr Edward Stradling a Syr Henry Vaughan. Hyd y gwn i, nis cofnodir yr un gân nac alaw Gymreig yn y ffynonellau ond gwyddom fod y milwyr yn canu caneuon oherwydd adroddir bod y Cymry o dan y Capten Gwyn yn canu a briskly lively tune a oedd yn debyg i’r alaw Albanaidd Up in the Morning Early wrth ymos
Guto Nyth Brân (2) (opens the original)
Read excerpt
Beth am hanesyddoldeb stori Guto Nyth Brân? Cofnodir rhan ohoni ar y gofeb uwchben ei fedd a godwyd 131 mlynedd wedi ei farwolaeth. Yna, ceir y fersiwn lawn gan Glanffrwd yn ei lyfr Plwyf Llanwynno a ysgrifennwyd 20 mlynedd yn ddiweddarch. Ffynhonnell Glanffrwd oedd plant cyfoedion i Guto ac felly, mae’n dystiolaeth eilaidd a hanes lafar, gydag elfennau chwedlonol cryf yn perthyn iddi. Ychydig o ffeithiau a wyddom. Ar ei garreg fedd, nodir ei enw go-iawn, sef, Griffith Morgan a’r ffaith y bu far
Guto Nyth Brân (opens the original)
Read excerpt
Ymwelais â bedd Guto Nyth Brân yn Eglwys Llanwynno yn y Rhondda heddiw. Honnid mai Guto oedd rhedwr cyflymaf Cymru erioed, os nad y byd. Ceir ei hanes yn y llyfr, Plwyf Llanwynno, gan William Thomas (Glanffrwd). Dywedir i Griffith Morgan a lysenwid Guto Nyth Brân gael ei eni yn 1700 yn Llwyncelyn, ger y Porth ond symudodd y teulu yn fuan i fferm arall o’r enw, Nyth-brân. Daeth yn amlwg cyn hir fod Guto yn rhedwr arbennig o gyflym. Unwaith afonodd ei fam ef i Lantrisant i nôl burum i wneud bara i
Publishing over time
Last 90 days. Choose a month to open its work.
Recurring subjects
Named in the text we hold. One piece can cover several.
Audience
No verified audience measurement yet.
About this data
Counts cover the work we have indexed. Tone needs enough text and a confident classification. Excerpts and episode notes are not full articles or transcripts.
Identity or attribution wrong? Suggest a correction.